Kieran Nicholas Bennett-Leefe oedd y bachgen fu farw ar ôl disgyn i mewn i Afon Tywi ddoe.

Cadarnhaodd yr heddlu enw’r bachgen 14 oed prynhawn ma.

Dywedodd swyddogion ei fod wedi ei sugno i lawr gan gerrynt cryf tua milltir i lawr yn afon o bentref Capel Dewi yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd yr heddlu, ambiwlansiau awyr, dau o gychod y frigâd dân a gwylwyr y glannau wedi chwilio’r dyfroedd tua 5.30pm ddoe.

“Cafodd y bachgen ei weld o dan y dŵr mewn pwll dwfn,” meddai’r Archwilydd Eric Evans.

“Llwyddodd swyddogion tân oedd eisoes yn y dŵr i’w dynnu allan a’i roi yng ngofal y parafeddygon a’r ambiwlans awyr.

“Cafodd y bachgen ei hedfan yn syth i Ysbyty Treforys.

“Ond er gwaethaf ymdrechion gweithwyr yr ysbyty, fe fu farw yn ystod oriau mân y bore.”

Dywedodd y teulu, sydd o ardal Caerfyrddin, nad oedden nhw eto yn gallu siarad am eu colled.

“Mae swyddog wedi bod allan i’w gweld nhw prynhawn ma,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Maen nhw’n amlwg wedi torri eu calonnau.”

Dywedodd yr heddlu fod y crwner wedi cael gwybod ac nad oedden nhw’n ystyried yr achos yn un amheus.