Mae unrhyw obaith oedd gan Gary Speed o benodi John Carver yn hyfforddwr cynorthwyol Cymru wedi dod i ben ar ôl iddo ymuno a thîm hyfforddi Newcastle Utd. 

Roedd yna sïon bod hyfforddwr Cymru yn awyddus i gynnig swydd i Carver ar ôl iddynt gydweithio yn Sheffield Utd. 

Ond penderfynodd rheolwr newydd Newcastle Utd, Alan Pardrew, benodi cyn-hyfforddwr cynorthwyol Sheffield Utd i’r swydd yn St James’ Park. 

Dyma fydd yr ail waith i John Carver cael ei benodi i’r swydd gyda Newcastle Utd, ar ôl iddo weithio dan Bobby Robson. 

“Rwy’n falch o gael dychwelyd unwaith eto at fy nghlwb lleol. Rydw i wedi bod yn lwcus i gael gweithio ym mhob rhan o’r byd gyda nifer o bobl ardderchog,” meddai John Carver. 

“Rydw i wedi bod yn gefnogwr brwd i’r clwb yma erioed ac wedi treulio rhai o flynyddoedd hapusaf fy mywyd yn gweithio i Newcastle.”