Fe fydd toriadau Llywodraeth San Steffan yn gwneud lles i Gymru.

Dyna farn economegydd blaenllaw sy’n credu y bydd y toriadau yn rhoi cyfle i economi Cymru lacio rywfaint ar ei ddibyniaeth ar y sector gyhoeddus.

Dywedodd Dr John Ball o Brifysgol Abertawe nad yw Cymru ar ei cholled o ganlyniad i ganslo prosiectau mawr gan gynnwys Morglawdd yr Hafren a thrydaneiddio rheilffordd De Cymru.

“Dylai Cymru gymryd mantais o’r cyfle i roi’r gorau i’w ddibyniaeth ar y sector gyhoeddus,” meddai wrth ysgrifennu ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig.

“Rydw i ac eraill wedi rhybuddio’n gyson bod dibyniaeth economi Cymru ar y sector gyhoeddus yn amhriodol, yn beryglus ac yn fygythiad i iechyd economaidd y wlad.

“Ni fydd £15 biliwn yn cael ei wario ar forglawdd Hafren, diolch byth. Doedd y morglawdd ddim yn gwneud unrhyw synnwyr, yn economaidd na chwaith yn amgylcheddol.

“Ni fydd £1 biliwn yn cael ei wario ar drydaneiddio rheilffordd De Cymru chwaith. Roedd gwario arian cyhoeddus fel bod mwy o’n cydwladwyr yn gallu gweithio yn Llundain yn nonsens.

“Doedd cael gwared ar y ganolfan filwrol yn Sain Tathan ddim yn golled fawr i economi Cymru chwaith. Ei unig gyfraniad fyddai ein bod ni’n cynnal, os nad dwysáu, ein dibyniaeth ar y sector gyhoeddus.”

Fe fyddai diwygio’r sector gyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol a Llywodraeth y Cynulliad, yn sgil effaith da arall i’r toriadau, meddai.

“Mae nifer y staff sy’n gweithio i’r Cynulliad wedi ffrwydro ers 1999. Mae angen edrych yn hir a chaled ar ba ddefnydd sy’n cael ei wneud o’r arian sy’n cael ei wario.

“Mae’n rhaid i unrhyw dwf yn y dyfodol ddod o’r sector breifat. Y peth rhyfedd am economi mewn dirwasgiad ydi bod tystiolaeth y gorffennol yn dangos eu bod nhw’n aml yn arwain at dwf cryf mewn busnesau newydd.

“Her Llywodraeth tŷ Cynulliad yw darparu’r gynhaliaeth sydd ei angen ar y sector breifat i dyfu a ffynnu.”