Mae Jose Maria Olazabal wedi ei enwi’n gapten Ewrop ar gyfer Cwpan Ryder 2012. 

Y Sbaenwr oedd y ffefryn ar gyfer y swydd ers i Colin Montgomerie gadarnhau nad oedd am barhau yn dilyn ei lwyddiant yn y Celtic Manor ym mis Hydref y llynedd. 

Roedd Olazabal wedi bod yn is-gapten yn ystod y ddwy gystadleuaeth ddiwethaf ond wedi bod yn dioddef o broblemau iechyd.

Dim ond tair gwaith y chwaraeodd y llynedd ond mae’n gobeithio chwarae yn amlach dros y tymor nesaf, cyn arwain Ewrop yn erbyn yr Unol Daleithiau yn Chicago mis Medi 2012. 

“Ennill cystadleuaeth y Meistrid ddwywaith yn Augusta National yw uchafbwynt fy ngyrfa, ond dyma’r gamp ydw i fwyaf balch ohono,” meddai Jose Maria Olazabal.

“Golff yw fy mywyd ac mae cael cynrychioli Ewrop yng Nghwpan Ryder wedi rhoi gymaint o fwynhad i mi. Mae cael fy enwi’n gapten y tîm yn brofiad arbennig ac rwy’n edrych ymlaen at 20 mis o baratoi cyn cyrraedd Medinah.

“Y flaenoriaeth fydd cadw’r gwpan. Ond fe fydd yr Americanwyr hefyd yn benderfynol o ennill.”

Fe fydd capten newydd yr Unol Daleithiau yn cael ei enwi dydd Iau. Davis Love III yw’r ffefryn i olynu Corey Pavin.