Mae un o swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi dweud ei fod yn rhyddhad bod system atal llifogydd Dyffryn Conwy wedi gweithio ac nad oedd difrod amlwg i dai yn Llanrwst a Threfriw dros y penwythnos.

“Mae’r system wedi gweithio yn ystod penwythnos gwlyb iawn, ac wedi amddiffyn 90 o dai rhag y llifogydd,” meddai Alan Winstone o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

“Os na fyddai’r system amddiffyn wedi bod yno,  mae’n debygol y byddai’r stori wedi bod yn wahanol ac y byddai llawer o dai wedi’u difrodi,” meddai.

Er mai rhybudd llifogydd ‘melyn’ – y radd isaf -oedd mewn grym yng Nghymru, roedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn pwysleisio y dylai pobol fod yn wyliadwrus a chadw golwg ar y rhagolygon tywydd diweddaraf.

Dywedodd Alan Winstone eu bod nhw’n parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Sir Conwy, Heddlu Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Achub.

Fe fu’n rhaid i Wasanaeth Tân Gogledd Cymru ymateb i dair argyfwng ‘bach’ ym Metws y Coed dros y penwythnos, o ganlyniad i’r llifogydd.