Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i dri dyn ymosod ar ddyn 24 oed â bar metal a dwyn ei ffôn yn y Fenni, Sir Fynwy.

Digwyddodd yr ymosodiad dan bont Heol Hamlin ar 4 Ionawr, rhwng 9.30pm a 9.45pm.

Anafwyd y dioddefwr ar ei wyneb ac fe gafodd ei ffôn symudol ei ddwyn. Roedd y tri dyn wedi nesáu tuag ato o’r tu ôl, meddai’r heddlu.

Dywedodd yr heddlu bod y tri yn wyn a rhwng 18 a 20 oed.

Roedd y dyn darodd y dioddefwr tua 5 troedfedd 10 modfedd o daldra, â gwallt tywyll ac yn siarad ag acen leol. Roedd yn gwisgo siaced du â hwdi.

Roedd yr ail ddyn yn denau ac yn gwisgo hwdi du â sip arno.

Roedd y trydydd dyn yn gwisgo cot wen â hwdi, ac roedd o ychydig yn fyrrach na’r ddau arall ac yn siarad ag acen leol.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 01633 838111 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.