Roedd dyn wedi cyhoeddi lluniau o bobol ddieuog ar y we a’u galw nhw’n bedoffilyddion am ei fod yn clywed lleisiau, cafodd llys wybod heddiw.

Dedfrydwyd Rory Fyfe Smith, 31, o Lanrwst, Conwy, i ddwy flynedd o waith yn y gymuned ar ôl pledio’n euog i saith cyhuddiad o gyhoeddi deunydd sarhaus ar y we.

Cafodd ei wahardd hefyd rhag cyhoeddi manylion neu luniau pobol ar y we heb eu caniatâd.

Yn ystod gwrandawiad yn Llys Ynadon Llandudno safodd Rory Fyfe Smith ar ei draed a darllen datganiad yn esbonio ei ymddygiad.

“Hoffwn i ymddiheuro i bawb ydw i wedi eu brifo, o ganlyniad i fy salwch meddyliol,” meddai.

“Dros y degawd diwethaf rydw i wedi bod yn clywed lleisiau ac yn dioddef o anhwylder gorfodaeth obsesiynol.

“Roeddwn i’n credu bod bron i bawb oeddwn i’n ei weld yn fy sarhau i. Roeddwn i hyd yn oed yn credu bod pobol mewn awyrennau yn fy sarhau i.”

Dioddefwyr

Dywedodd Rory Fyfe Smith ei fod o bellach ar feddyginiaeth ac yn sylweddoli nad oedd ei ddioddefwyr wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

“Rydw i’n ymddiheuro i fy nioddefwyr ac yn gobeithio eu bod nhw’n deall fy mod i wedi gweithredu pan oeddwn i’n sâl ac na fydden i’n gwneud hynny eto.

“Mae fy ngweithredoedd wedi codi cywilydd arna’i. Mae’n ddrwg gen i.”

Clywodd y llys ynghynt bod gweithwyr ambiwlans, ysgol a myfyrwyr ymysg dioddefwyr Rory Fyfe Smith.

Defnyddiodd gamera i dynnu lluniau o’r dioddefwyr heb eu caniatâd tra’r oedden nhw yn Llanrwst, clywodd y llys.

Cafodd y lluniau eu gosod ar flogiau a YouTube gyda chapsiynau sarhaus gan gynnwys “camdriniwr plant”.