Mae ‘na adroddiadau bod Caerdydd wedi gwrthod cynnig gan glwb arall am eu hymosodwr Jay Bothroyd.

Mae rheolwr tîm y brifddinas, Dave Jones wedi dweud wrth y wasg heddiw bod y clwb wedi gwrthod cynnig am brif sgoriwr ei dîm eleni.

Does dim manylion ynglŷn â phwy sydd wedi gwneud y cynnig, ond mae nifer o dimau Uwch Gynghrair Lloegr wedi eu cysylltu â’r chwaraewr dros yr wythnosau diwethaf.

Nid yw Bothroyd wedi chwarae i’w dîm yn yr un o’r saith gêm ddiwethaf oherwydd anafiadau ac mae ei gytundeb presennol gyda Chaerdydd yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Er hynny, mae Dave Jones yn mynnu bod y chwaraewr am aros gyda’r Adar Glas.

Wedi dweud hynny, mae Caerdydd wedi arwyddo ymosodwr newydd tebyg i Bothroyd, sef John Parkin, yn y ffenest drosglwyddo gan awgrymu bod Jones yn paratoi i golli ei brif sgoriwr.