Mae braster bwydydd dros ben yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd a bywyd gwyllt, yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

Mae’r asiantaeth newydd lansio ymgyrch ar y cyd gyda Dŵr Cymru er mwyn cynghori pobl ynglŷn â sut i waredu gwastraff domestig yn gyfrifol.

Bwriad yr ymgyrch yw rhybuddio pobol bod tywallt olew, saim, braster a bwyd i lawr y sinc yn gallu blocio’r system carthffosiaeth.

Effaith ar fywyd gwyllt

Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd a Dŵr Cymru sgil effaith hynny yw bod gwastraff yn gorlifo i afonydd a llynnoedd, gan lygru amgylchedd naturiol y bywyd gwyllt.

Yn ôl cyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Chris Mills, mae’r rhan fwyaf o bobol yn gwybod nad ydi tywallt gwastraff domestig i lawr y sinc yn gwneud lles, ond dyw’r rhan fwyaf ddim yn gwybod pam.

“Mae rhai pobl nad ydyn nhw heb ddeall y problemau y gall hyn ei greu,” meddai Chris Mills.

“Gall carthffosiaeth heb ei drin arwain at ostwng lefelau’r ocsigen mewn dŵr yn sylweddol,” meddai, “ac mewn achosion difrifol, all yr afon ddim cynnal pysgod, pryfaid, ac anifeiliaid sy’n byw o gwmpas y dŵr.

“Mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae wrth osgoi llygredd sy’n effeithio ar fywyd gwyllt.”

Blocio pibellau dŵr

Yn ôl Helen Smith o Ddâr Cymru, gall bloneg yn y pibelli carthffosiaeth amharu ar y system ddŵr hefyd.

“Rydym ni’n delio â channoedd o bibelli carthffosiaeth sydd wedi eu blocio bob wythnos, a’r achos, yn aml, yw bod braster, olew a saim wedi caledu yn y pibellau.”

Cyngor

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Dŵr Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau er mwyn helpu pobl i waredu eu bwyd mewn modd mwy cyfrifol, gan gynnwys:

  •                                        Crafu’r bwyd oddi ar blatiau a sosbannau cyn eu golchi’n lan, gan wagio’r cyfan i fin bwyd.
  •                                        Casglu’r braster coginio, olew, a saim sydd wedi ei ddefnyddio mewn twb a’i daflu i’r bin bwyd.
  • Defnyddio hidlyddion yn nhwll y sinc, ac yna’i roi yn y bin bwyd.