Mae Ofcom wedi gwrthod y cais i leihau nifer yr oriau Cymraeg sy’n cael eu darlledu ar orsaf Radio Ceredigion.

Daw’r newyddion wedi i bwyllgor trwyddedu Ofcom gyfarfod i ystyried y cais gan berchnogion Radio Ceredigion – Town and Country Broadcasting – brynhawn ddoe.

Roedd y cwmni wedi gwneud cais i Ofcom er mwyn gostwng nifer yr oriau oedd rhaid eu darlledu trwy’r Gymraeg.

Roedden nhw eisiau newid eu trwydded ddarlledu, fel mai dim ond awr o ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg fyddai ei angen yn ystod y dydd.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Town and Country Broadcasting, Martin Mumford, fod y cwmni wedi gobeithio y byddai newid yn y drwydded yn golygu fod angen “treulio llai o amser ar reolau a mwy o amser yn gwneud radio lleol da”.

Ond heddiw, dywedodd bod ei gwmni nawr yn dymuno “tynnu llinell o dan y materion rheoleiddio yma”.

‘Sarhad’

Mae Cadeiryd Cyfeillion Radio Ceredigion, Geraint Davies, yn dweud ei fod yn “croesawu’r penderfyniad” sydd wedi ei wneud gan Ofcom.

Ond, mae’n rhybuddio nad yw’r frwydr drosodd o bell ffordd.

“Mae angen i Ofcom sicrhau bod Town and Country yn glynnu at amodau’r drwydded, sef hanner a hanner yn y Gymraeg a’r Saesneg,” meddai.

“Yn anffodus dydyn ni ddim yn credu fod Town and Country Broadcasting, sef perchnogion Radio Ceredigion, wedi gwneud hynny ers i’r orsaf newid dwylo yn Ebrill 2010.

“Mae eu polisi gwrth-Gymraeg wedi bod yn hollol amlwg i ni, ac wedi bod yn sarhad.”

Dywedodd Geraint Davies wrth Golwg 360 fod grŵp Cyfeillion Radio Ceredigion nawr yn ystyried gwneud cais am drwydded radio gymunedol i’r ardal, ar y cyd a nifer o grŵpiau a sefydliadau eraill.

“Yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Radio Ceredigion wnaeth arwain at y trafodaethau hyn,” meddai Geraint Davies.

Ond dywedodd na fyddai unrhyw wasanaeth o’r fath yn gweld golau dydd am amser hir.