Mae llanc wedi marw ar ôl disgyn i mewn i Afon Tywi.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r fan tua milltir i lawr yr afon o Gapel Dewi yn Sir Gaerfyrddin, tua 5.30pm ddoe.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod bachgen 14 oed wedi ei lusgo i ffwrdd gan gerrynt cryf.

Chwiliodd yr heddlu, hofrenyddion ambiwlans, a dau o gychod y gwasanaeth tân yr afon.

“Cafodd y bachgen ei weld o dan y dŵr mewn pwll dwfn,” meddai’r Archwilydd Eric Evans.

“Llwyddodd swyddogion tân oedd eisoes yn y dŵr i’w dynnu allan a’i roi yng ngofal y parafeddygon a’r ambiwlans awyr.

“Cafodd y bachgen ei hedfan yn syth i Ysbyty Treforys.

“Ond er gwaethaf ymdrechion gweithwyr yr ysbyty, fe fu farw yn ystod oriau mân y bore.”

Dywedodd yr heddlu fod y crwner wedi cael gwybod ac nad oedden nhw’n ystyried yr achos yn un amheus.