Heddlu
Mae Heddlu Gwent wedi galw am wybodaeth ar ôl i glaf a allai fod yn beryglus fethu a dychwelyd i Ysbyty Llys Llanarth.

Roedd Russell Dugay, sy’n 40 mlwydd oed, yn cael ei hebrwng gan yr heddlu pan lwyddodd i ddianc. Fe’i gwelwyd yng Nghwmbrân tua hanner dydd ddoe.

Dywed yr heddlu ei fod yn ddyn gwyn, tua 6’3”, yn fawr o gorff gyda gwallt byr brown tywyll wedi’i eillio a barf goatee.

Mae ganddo acen Saesneg a nifer o datŵs, gan gynnwys eryr a’r geiriau ‘Bulldog’ a ‘Russ’ ar ei fraich chwith.

Dywedodd yr heddlu fod ganddo gysylltiadau yn ardal Abertawe a Phort Talbot.

Ystyrir ef yn risg posib i’r cyhoedd ac ni ddylai unrhyw un sy’n ei weld fynd ato.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth amdano gysylltu gyda Heddlu Gwent ar 01633 838111 neu gyda Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.