Rebecca Aylward
Roedd llygaid-dyst allweddol mewn achos llys wedi mynd ar-lein o fewn munudau o roi tystiolaeth er mwyn gwneud hwyl ar ben y diffynnydd, clywodd llys.

Wrth wynebu’r llys unwaith eto ddoe dechreuodd llanc grio wrth i drawsgrifiad gair-am-air o’i drafodaeth, oedd yn llawn iaith aflan, gael ei ddarllen.

Gorffennodd yr achos llys yn gynnar yr wythnos diwethaf ar ôl i fachgen sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gyn-gariad ddioddef o wddf tost.

Cafodd Rebecca Aylward, 15, o Faesteg, ger Pen y Bont ar Ogwr, ei thrywanu i farwolaeth â charreg ym mis Hydref y llynedd.

Mae ei chyn-gariad 16 oed wedi ei gyhuddo o’i denu hi i goedwig ger Abercynffig er mwyn ei lladd.

Clywodd Llys y Goron Abertawe ynghynt fod ei ffrind gorau wedi addo brecwast am ddim iddo os oedd yn ei llofruddio hi.

Mae’r diffynnydd yn honni nad oedd ganddo unrhyw beth i’w wneud â’r farwolaeth ac mai ei ffrind gorau yw’r llofrudd go iawn.

Cafodd tystiolaeth y ffrind hwnnw ei atal dros dro ddydd Iau diwethaf oherwydd bod gan y diffynnydd wddf tost.

Trafodaeth Skype

Wrth holi’r ffrind ddoe fe wnaeth yr amddiffyn, Peter Rouch QC, ei atgoffa yn syth fod y barnwr wedi dweud na ddylai drafod yr achos y tu allan i’r llys.

“Rydw i’n mynd i fod yn awgrymu yn ddiweddarach mai chi laddodd Rebecca,” meddai Peter Rouch.

“Rydych chi felly yn gwybod fod y rheithgor yn mynd i orfod cloriannu a gwerthuso eich atebion.”

“Ydw,” cytunodd y llanc.

Dywedodd Peter Rouch fod y llanc, oedd wedi rhoi tystiolaeth o ystafell arall ar linc fideo, wedi cysylltu â’i ffrindiau ar Skype.

Roedd y bachgen wedi creu cyfri newydd â’r cwmni ffonio am ddim ar ôl diwedd yr achos llys ddydd Iau, meddai.

Darllenodd Peter Rouch y drafodaeth i’r llys ar ôl rhoi copi ohono yn nwylo’r bachgen oedd yn rhoi tystiolaeth.

Dechreuodd y llanc grio wrth edrych ar y ddogfen ac yna sychu dagrau o’i lygaid wrth i’w eiriau gael eu darllen allan o flaen y llys.

“Dyfalwch pwy adawodd y llys gan esgus fod ganddo wddf tost,” meddai. “Llwfrgi.

“Fe fyddwn i wedi talu i wylio hynny. Lol. Mae’n edrych fel petai ei gynllun yn methu.

“Roedd o wedi cael pwl o banig yn ystod fy nghysylltiad fideo. Mae’n dechrau cracio.”

Aeth yn ei flaen i awgrymu y byddai gan y diffynnydd sawl gwddf tost ar ôl gorfod cymryd rhan mewn cyfathrach rywiol â dynion eraill yn y carchar.

Dywedodd Peter Rouch fod y drafodaeth â ffrindiau eraill, gan gynnwys rhaid oedd eisoes wedi rhoi tystiolaeth o flaen y llys.

Wrth gael ei holi gan yr erlynydd roedd y llanc wedi dweud ei fod yn credu mai’r diffynnydd laddodd Rebecca Aylward.

Esboniodd nad oedd wedi cymryd negeseuon testun rhwng y ddau yn trafod ei llofruddio hi o ddifrif.

Dywedodd nad oedd yn disgwyl y byddai ei gyfaill yn gwneud hynny go iawn.

Mae’r achos llys yn parhau heddiw.