Mae tri bachgen yn eu harddegau wedi eu harestio ar amheuaeth o ddwyn plwm o do eglwys yng Nghaerdydd.

Cafodd dau fachgen 14 ac 17 oed eu dal gan yr heddlu mewn dillad cyffredin ar dir Eglwys y Santes Fair yng Nhreganna, cyn i’r trydydd gael ei ddal ar ôl ei ddarganfod ar do’r eglwys.

Derbyniodd Heddlu De Cymru wybodaeth am ddynion yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal yn oriau mân fore ddoe, ac anfonwyd dau swyddog heddlu draw yno yn fuan wedyn.

“Daeth yr alwad i’r ystafell reoli am 1.30am ynglŷn ag unigolion posib ar do Eglwys Santes Fair,” meddai’r Rhingyll Jayne Hill.

“Yn ffodus, roedden nhw yn y lle iawn ar yr amser iawn.”

Roedd heddlu eisoes yn yr ardal yn dilyn cyfres o ladrata yn yr ardal yn ddiweddar, gan gynnwys dwyn plwm o do un tŷ lleol.

Mae’r heddlu bellach wedi llwyddo i gael gafael ar ddarn o blwm y credir iddo gael ei dynnu oddi ar do’r eglwys.

Bydd ‘Operation Lilac’ yn parhau yn ardal Treganna a Phontcanna am y tro, mewn ymdrech i atal a thaclo bwrgleriaeth, ond mae Heddlu’r De we galw ar bobol i sicrhau bod drysau a ffenestri wedi eu cau.