Nikitta Grender
Mae dyn wedi pledio’n ddieuog i dreisio a llofruddio merch feichiog o Gasnewydd.
Daethpwyd o hyd i gorff Nikitta Grender, 19 oed, oedd o fewn pythefnos i roi genedigaeth i ferch fach, mewn fflat oedd ar dân ym Mharc Broadmead, Llyswyry.
Daeth diffoddwyr ta o hyd i’w chorff ar 5 Chwefror eleni. Fe fu farw anifail anwes yn y tân hefyd.
Gwadodd Carl Whant, 26, un cyhuddiad o losgi bwriadol a dinistrio plentyn yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.
Fe fydd yr achos llys yn dechrau ar 9 Ionawr, 2012, ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa nes hynny.