Aethpwyd a llanc i’r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl iddi neidio i mewn i’r môr o glogwyn yn Abertawe.

Cafodd y bachgen 19 oed ei anafu wrth neidio i’r dŵr yn y Mwmbwls. Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 10pm ddoe.

Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau eu bod nhw’n credu ei fod wedi torri ei goes. Ychwanegodd ei fod yn lle poblogaidd i neidio i’r môr ond hefyd yn berygl iawn.

Tas wair

Yng ngogledd Cymru bu’n rhaid i fad achub gludo tas wair oedd wedi drifftio allan i’r môr at y lan, ddoe.

Gwelwyd y das wair ym Mae Cemaes ddoe a chafodd ei gludo yn ôl at y lan ar ôl i wylwyr y glannau benderfynu ei fod yn berygl i gychod a llongau.

Dywedodd gwylwyr y glannau eu bod nhw’n credu fod rhywun wedi ei daflu i mewn i’r môr.