A55
Mae tîm o swyddogion wedi eu cyflogi er mwyn torri i lawr ar dagfeydd traffig ar yr A55.

Bydd 21 o swyddogion yn dechrau ar eu hyfforddiant yng Nghonwy heddiw ac i’w gweld ar y ffordd ddeuol o fis Awst ymlaen.

Fe fydd ganddyn nhw rywfaint o bwerau i atal, reoli a chyfeirio traffig.

Dechreuodd tîm tebyg o swyddogion traffig gylchwylio yr M4 y llynedd.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Carl Sargeant, y byddai’r swyddogion traffig yn golygu fod gan heddweision ragor o amser i’w dreulio ar faterion eraill.

“Mae cael swyddogion traffig ar yr A55 yn rhoi’r rhyddid i heddweision ganolbwyntio ar droseddau ar y ffyrdd sy’n effeithio ar ddiogelwch gyrwyr,” meddai.