Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn brwydro tân difrifol dros nos ar safle cwmni beiciau modur yn Abertawe.

Galwyd y gwasanaethau brys i safle M&P Motorcycles yng Ngorseinon tua 11.30pm neithiwr.

Dywedodd gwasanaeth tân ac achub canolbarth a gorllewin Cymru fod yr adeilad cyfan wedi ei ddifrodi gan y fflamau.

Llwyddodd y diffoddwyr tân i atal y fflamau rhag lledu ymhellach i adeiladau eraill ar yr ystâd ddiwydiannol.

Maen nhw bellach yn ymchwilio i beth achosodd y tân.