Andrew RT Davies
Mae’r ddau ymgeisydd Andrew RT Davies a Nick Ramsay, wedi colli cyfle i ymosod ar bolisiau’r blaid Lafur.

Dyna farn y sylwebydd gwleidyddol a chyn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Rod Richards.

“Dy’n nhw ddim wedi manteisio ar y sylw maen nhw wedi cael (yn ystod y frwydr am yr arweinyddiaeth) i ymosod ar Carwyn Jones.” meddai. “Dw i’n synnu eu bod nhw ddim wedi dangos bod gyda nhw’r grefft honno.

“Y cyntaf i fod yn gyhoeddus gyda’r ymosodiad ar Carwyn sydd yn mynd i ennill pwyntiau,” meddai wrth gyfeirio at Andrew RT Davies, AC Canol De Cymru a Nick Ramsay sydd yn cynrychioli Mynwy.

“Dw i ddim yn siŵr ydyn nhw’n llwyr sylweddoli rôl yr arweinydd. Arweinydd y grŵp Cynulliad yw hwn, nid arweinydd y blaid Geidwadol yng Nghymru. Mae’r arweinydd yn mynd i fod am bum mlynedd yn llefarydd yr wrthblaid.”

“Fe ddylen nhw fod yn cyrraedd penllanw’r ymgyrch nawr,”meddai. “Dw i ddim yn gwybod a fydd hi’n gystadleuaeth agos ond mae’n rhaid i’r ddau godi eu gêm, nawr yw eu cyfle ola.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 23 Mehefin