Mae angen i fusnesau sy’n anfon pobol i gadw tafarnau mewn ardaloedd Cymraeg, sicrhau eu bod yn deall y bydd y mwyafrif o’r cwsmeriaid yn siarad yr iaith.

Dyna ddywed cynghorydd yn y pentre lle cafodd g ŵr 25 oed ei arestio yn gynnar bore Sadwrn ar amheuaeth o fod a dryll yn ei feddiant gyda’r bwriad o godi ofn o drais. Cafodd ei ryddhau er fechnïaeth heb ei gyhuddo wrth i’r heddlu ymchwilio.

Mae cylchgrawn Golwg yn deall bod person y tu ôl i’r bar yn nhafarn y Royal Oak ym Mhenrhyndeudraeth wedi tynnu gwn ar y trigolion ar ôl iddyn nhw fod yn canu emynau Cymraeg.

“Doedd o ddim yn dallt yr un gair, ac yn meddwl ein bod ni’n cymryd y piss,” meddai un o drigolion Penrhyndeudraeth, nad oedd am gael ei enwi.

Dywedodd cynghorydd Penrhyndeudraeth, Dewi Lewis, fod “gyfrifoldeb ar y bragdy, neu ar unrhyw gorff boed yn fanciau neu beth bynnag, yn cyflogi pobol efo cydymdeimlad efo’r ardal, neu hyd yn oed yn medru siarad Cymraeg.”

“Er budd eu busnes nhw’u hunain, ddylan nhw ddeall bod yr iaith Gymraeg yn bwysig. Yn anffodus, mae rhai estroniaid yn dod i mewn a meddwl mai ymestyniad o Loegr ydy Cymru.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 23 Mehefin