Swyddfa S4C
Bydd 29 o aelodau staff S4C yn gadael eu swyddi, cyhoeddodd y sianel heddiw.

Dywedodd S4C y bydd y staff yn gadael o dan gynllun diswyddo gwirfoddol y Sianel, a sefydlwyd yn dilyn y toriadau yng nghyllideb y Sianel.

Cyhoeddwyd y cynllun ar 12 Mai eleni. Yn ogystal â gwahodd ceisiadau diswyddo gwirfoddol, cyhoeddodd S4C ei fod yn barod hefyd i ystyried ceisiadau gan staff sy’n dymuno lleihau eu horiau gwaith neu rannu swydd.

Cyhoeddwyd toriad yng nghyllideb S4C o 24% dros bedair blynedd fel rhan o Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr Llywodraeth San Steffan fis Hydref y llynedd.

“Mae’n fater trist gweld staff yn gadael a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cyfraniad, nifer ohonyn nhw ers blynyddoedd lawer,” meddai Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C.

“Dyma rhan gyntaf proses fydd yn arwain at ail-strwythuro S4C er mwyn adnabod arbedion pellach a sicrhau dyfodol tymor hir y Sianel.”