Elin Jones
Mae’r cyn Weinidog Materion Gweledig, Elin Jones, wedi dweud nad oedd gweinidogion y Blaid Lafur wedi mynegi unrhyw bryderon wrth iddi gynllunio i ddifa moch daear yn ne-orllewin Cymru.

Ddoe cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n bwriadu cefnu ar bolisi’r llywodraeth flaenorol i ddifa moch daear, am y tro.

Dywedodd y Gweinidog Amgylcheddol, John Griffiths, eu bod nhw’n bwriadu comisiynu panel arbenigol er mwyn cynnal ymchwiliad gwyddonol i’r dystiolaeth cyn bwrw ymlaen â’r cynllun.

Ond dywedodd Elin Jones nad oedd hi wedi clywed smic gan y Prif Weinidog Carwyn Jones na chwaith John Griffiths wrth lunio’r cynllun, a bod y ddau wedi pleidleisio o’u plaid yn y Senedd.

“Os oedd gan John Griffiths neu Carwyn Jones bryderon go iawn am wyddoniaeth neu gyfreithlondeb beth yr oedden ni yn bwriadu ei wneud er mwyn cael gwared ar TB ychol fe ddylen nhw fod wedi mynegi hynny yn ystod y llywodraeth diwethaf,” meddai.

“Roedd y ddau weiniog wedi chwarae rhan blaenllaw yn y glymblaid â Plaid Cymru – ond doedden nhw heb wrthwynebu ein bwriadu i gael gwared ar TB ychol.

“Fe fydd yr oedi yma yn gam yn ôl difrifol i’n ffermwyr ni. Mae’r cynllun eisoes wedi ei oedi unwaith gan benderfyniad y llys – ond mae’r oedi yma yn gyfan gwbwl o ganlyniad i’r llywodraeth.

“Bob tro y bydd achos newydd o TB ychol yn cael ei gadarnhau, dylai’r Blaid Lafur gael y bai am eu brad annirnadwy.”