Catherine a Ben Mullany
Mae erlynwyr yn achos llofruddiaethau Catherine and Benjamin Mullany o Bontardawe wedi dweud fod cysylltiad rhwng y diffynyddion a ffôn symudol gafodd ei ddwyn.

Cafodd Ben a Catherine Mullany, y ddau yn 31 oed, eu saethu ychydig dros bythefnos ar ôl diwrnod eu priodas, ar eu mis mêl ar Ynys Antigua yn y Caribî.

Mae Avie Howell a Kaniel Martin, 23, yn gwadu cyhuddiad o lofruddio’r ddau.

Dywedodd un o weithwyr darparwr ffôn symudol lleol yr ynys wrth y llys yn St John fod dau gerdyn SIM wedi eu defnyddio yn ffon Nokia y pâr priod ar ôl iddyn nhw gael eu lladd.

Clywodd y rheithgor hefyd dystiolaeth oedd yn awgrymu fod Avie Howell a Kaniel Martin yn ardal y gwesty adeg y llofruddiaethau ym mis Gorffennaf 2008.

Mae’r ddau hefyd wedi eu cyhuddo o ladd y siopwraig Waneta Anderson Walker yn yr un cyfnod, ac mae disgwyl iddyn nhw wynebu achos llys ar wahân am ddwy lofruddiaeth arall yn ddiweddarach.

Y cefndir

Roedd Ben a Catherine Mullany o Bontardawe wedi bod yn aros yn y Cocos Hotel ar dde-orllewin yr ynys pan aeth o leiaf un saethwr i mewn i’w chalet wrth iddyn nhw gysgu.

Pan gyrhaeddodd yr heddlu roedd Catherine Mullany eisoes wedi marw o glwyf i’w phen ar ôl i’r ymosodwr ei saethu.

Dioddefodd Ben Mullany, o Ystalyfera, waedlif ar yr ymennydd ar ôl i fwled deithio drwy ei wddf ac i mewn i’w benglog.

Aethpwyd ag ef yn ôl i Ysbyty Treforys yn Abertawe ond fe fu farw wythnos ar ôl y saethu.

Cafodd ef a’i wraig eu claddu ar dir yr un capel lle’r oedden nhw wedi priodi tua mis ynghynt.

Mae’r achos llys yn ei ail wythnos erbyn hyn.