Hywel Williams
Mae Aelodau Seneddol wedi gwrthod cynlluniau fyddai wedi caniatáu i Lywodraeth Cymru gynnal canolfannau gwaith Cymru.

Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams, y byddai yn “fwy effeithiol, ac wedi ei drefnu a’i gydlynu yn well” petai Llywodraeth Cymru yn rheoli’r Ganolfan Byd Gwaith.

Ond wfftiodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Guto Bebb, ei Fesur Canolfan Byd Gwaith (Cymru) gan ddweud na fyddai yn arwain at ragor o bobol yn mynd yn ôl i’r gwaith.

“Mae’r mesur yma yn dangos y gwahaniaeth sydd rhwng y Blaid Geidwadol yng Nghymru, sy’n pryderu am ganlyniadau, a’r pleidiau eraill yng Nghymru, gan gynnwys Plaid, sy’n pryderu am y broses,” meddai.

“Y gwir yw mai canlyniadau sy’n cyfri ac yn fy marn i fe fydd y newidiadau i fudd-daliadau y mae’r Llywodraeth yn eu cyflwyno yn arwain at newid go iawn.”

Pleidleisiwyd yn erbyn y mesur o 127 pleidlais i 21, sef mwyafrif o 106.