Mae ditectifs yn ceisio dod o hyd i griw o ddynion a oedd wedi esgus eu bod yn heddlu dillad plaen er mwyn mynd i mewn i gartref teulu a dwyn arian parod ac ingotau arian.

Cafodd y teulu o Aberpennar yng Nghwm Cynon eu twyllo gan y troseddwyr ac wedyn eu clymu cyn i’r lladron dreulio chwarter awr yn chwilio’r cartref cyn ffoi oddi yno.

Gwelwyd y dynion yn gadael yr ardal mewn BMW Series 5 du, gan fynd i gyfeiriad Stryd Albany a Stryd Arthur.

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad am 7.30am ddydd Llun ond, meddai’r heddlu, roedd y teulu wedi cael braw.

Ymchwilio

“Roedd hwn yn achos unigryw, prin iawn,” meddai’r Ditectif Arolygydd Phil Camm. “Mae yna dim o heddweision yn ymchwilio ac rydyn ni’n cymryd y drosedd o ddifri’.

“Rydyn ni’n annog pobol i fod yn wyliadwrus. Os oes unrhyw un wedi cael cynnig yr ingotau, rhowch wybod.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu gysylltu â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.