Gareth Bale - yn nhîm Prydain?
Mae Cymdeithasau Pêl Droed Cymru a’r Alban wedi eu cythruddo gan gyhoeddiad disymwth y bydd chwaraewr o bob gwlad yn cystadlu yn nhîm pêl-droed Ynysoedd Prydain.

Cyhoeddwyd y datganiad gan y Gymdeithas Olympaidd Brydeinig yn dilyn trafodaeth â Chymdeithas Bêl Droed Lloegr.

Dywedodd llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Phil Pritchard, nad oedd gan Gymdeithas Bêl Droed Lloegr yr hawl i siarad ar eu rhan nhw.

Maen nhw’n pryderu y gallai Fifa benderfynu creu un tîm Prydeinig parhaol os yw’n fenter yn llwyddiant.

Maen nhw wedi rhoi rhwydd hynt i Gymdeithas Pêl-droed Lloegr greu tîm Prydeinig gan ddewis eu chwaraewyr nhw yn unig.

“Dydyn ni ddim yn rhan o unrhyw gytundeb,” meddai. “Does gan y FA ddim yr awdurdod i siarad ar ein rhan ni – dydyn nhw ddim yn cynrychioli Cymru mewn unrhyw fodd.

“Dydyn ni heb drafod y mater ar unrhyw adeg yn y gorffennol agos.”

Roedd datganiad y Gymdeithas Olympaidd Brydeinig yn dweud y “bydd chwaraewyr o Loegr, yr Alban, Cymru , Gogledd Iwerddon a thiriogaethau eraill yn gymwys i gael eu dewis”.

“Mae Cymdeithas Bêl Droed Lloegr wedi trafod â chymdeithasau’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon wrth ddatblygu’r meini prawf ar gyfer dewis chwaraewyr.”

Yn ôl y datganiad fe dydd y sgwad derfynol yn cael ei ddewis yn haf 2012, ar ôl i reolwyr timau’r gwledydd gwahanol gynnig rhestr o bwy fydd ar gael i chwarae.