Alec MacLachlan
Clywodd cwest heddiw fod dyn o Lanelli ei ddienyddio yn Irac flwyddyn ar ôl cael ei herwgipio yno.

Cafodd y gwarchodwr Alec MacLachlan, 30, ei herwgipio ar y cyd gyda Jason Swindlehurst, 38, o Skelmersdale, Swydd Gaerhirfryn, a Jason Creswell, 39, o Glasgow, a Peter Moore, 36.

Herwgipiwyd y pedwar gan wrthryfelwyr oedd wedi eu gwisgo fel heddlu Irac yn adran gyllid y wlad ym mis Mai 2007.

Cafodd tri chorff, gan gynnwys  corff Alec MacLachlan, eu trosglwyddo i’r awdurdodau Prydeinig yn 2009.

Cafodd Peter Moore, arbenigwr cyfrifiadurol oedd yn cael ei warchod gan y lleill, ei ryddhau ar 30 Rhagfyr yr un flwyddyn, 946 diwrnod ar ôl cael ei herwgipio.

Y gred yw bod pedwerydd gwarchodwr, Alan McMenemy, 34, o Glasgow, hefyd wedi ei ladd.

Yr herwgipiad

Clywodd y cwest yn Trowbridge, Swydd Wilton, fod pedwar gwarchodwr wedi casglu Peter Moore ac arbenigwr cyfrifiadurol arall, Peter Donkin, o’u cartrefi yn ardal werdd Baghdad.

Roedden nhw wedi hebrwng y ddau i adran gyllid y wlad lle’r oedden nhw yn helpu i osod system gyfrifiadurol newydd.

Tua 11.40am ymosododd rhwng 50 a 100 o wrthryfelwyr, oedd wedi eu gwisgo yn nillad yr heddlu, ar yr adeilad a herwgipio Alec MacLachlan a’r lleill.

Dywedodd y Ditectif Brif-arolygydd, Mark Moles, o gangen wrth-derfysgol Scotland Yard, bod y gwrthryfelwyr wedi cerdded i mewn i’r adeilad a phwyntio eu drylliau ar y gwarchodwyr “ar yr eiliad olaf”.

“Doedd yna ddim cyfle i’w herio nhw ac yn anffodus fe’u trechwyd nhw yn gyflym iawn,” meddai Mark Moles.

“Roedden nhw wedi eu hyfforddi i lefel uchel ond doedd dim cyfle ganddyn nhw i atal yr herwgipiad.”

Basra

Dywedodd fod y pump wedi eu gyrru oddi yno ac wedi gorfod tynnu eu dillad a’u taflu drwy ffenestri’r ceir.

Ychwanegodd fod yr arbenigwr cyfrifiadurol arall, Peter Donkin, wedi llwyddo i guddio mewn adran gudd yn y llawr.

Roedd Peter Moore wedi rhoi disgrifiad manwl iawn o’i gyfnod dan glo ar ôl iddo gael ei ryddhau yn 2009, meddai Mark Moles.

Dywedodd fod y pump wedi eu bygwth gan bobol oedd yn smalio eu bod nhw’n mynd i’w dienyddio, a hefyd wedi eu cadw mewn cadwynau a mygydau am gyfnodau hir.

Ychwanegodd eu bod nhw wedi eu symud i leoliadau newydd bob ychydig fisoedd, ac wedi gorfod recordio fideos bob hyn a hynb er mwyn profi eu bod nhw yn dal yn fyw.

Dywedodd fod y gwarchodwyr yn credu eu bod nhw yn Basra oherwydd sŵn ‘Prydeinig’ y canonau oedd yn cael eu saethu i’r awyr.