Safle Chevron (Colin Bell CCA 2.0)
Mae disgwyl i ymchwiliad i ffrwydrad ar safle Chevron yn Aberdaugleddau gymryd sawl mis i’w gwblhau, cyhoeddodd yr heddlu heddiw.
Fe fu farw Andrew Jenkins, 33, Julie Schmitz, 54, Dennis Riley, 52, a Robert Broome, 48 yn y ffrwydrad ar 2 Mehefin.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod eu hymchwiliad ar y cyd â’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau ac yn debygol o gymryd misoedd eto.
Mae arbenigwr fforensig a technegol wrthi’n astudio’r safle er mwyn penderfynu beth achosodd y ffrwydrad a’r tân laddodd y pedwar.
Ychwanegodd yr heddlu y bydd yr ymchwiliad yn un “araf a trwyadl” a bod tîm ymchwilio ar y safle yn casglu tystiolaeth ac yn cyfweld llygaid-dystion.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Simon Powell, sy’n arwain yr ymchwiliad eu bod nhw’n “ymroddedig i ddarganfod beth achosodd y ffrwydrad a pham”.
“Rydyn ni’n defnyddio nifer o arbenigwr fforensig a technolegol er mwyn adeiladu darlun o beth ddigwyddodd ac rydyn ni yn y broses o siarad â llygaid-dystion.
“Mae teuluoedd wedi gofyn am lonydd dros yr wythnosau diwethaf, yn enwedig wrth iddyn nhw gladdu eu perthnasau.
“Maen nhw’n ddiolchgar am y gefnogaeth y maen nhw wedi ei dderbyn gan y gymuned, ond eisiau cynnal yr angladdau allan o olwg y cyfryngau.”