Gwersyll Cymdeithas yr Iaith
Mae ymgyrchwyr iaith sy’n gwersylla y tu allan i ganolfan darlledu y BBC ym Mangor wedi dweud eu bod nhw’n “siomedig iawn” ag ymateb y gorfforaeth hyd yn hyn.

Dywedodd yr ymgyrchwyr wrth Golwg 360 eu bod nhw’n bwriadu aros yn yr unfan nes eu bod nhw’n derbyn ymateb oedd wrth eu bodd. Maen nhw wedi bod yno ers dros 24 awr erbyn hyn.

Ddoe dywedodd llefarydd ar ran y BBC wrth Golwg360 “nad yw penderfyniad Llywodraeth San Steffan i newid y modd caiff S4C ei ariannu yn golygu fod y BBC yn gallu nac yn bwriadu cymryd S4C drosodd”.

“Mae BBC yn hollol ymrwymedig i ddarpariaeth Gymraeg ac i S4C sy’n olygyddol annibynnol,” meddai’r llefarydd.

“Mae’r BBC hefyd wedi ei gwneud yn glir bod gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn parhau i fod yn ganolog i’r hyn mae’n ei wneud ar ei wasanaethau a bydd unrhyw benderfyniad ddaw ar ddiwedd y broses o gyrraedd targedau arbedion heriol yn gorfod cael eu cymeradwyo gan Ymddiriedolaeth y BBC.”

‘Ddim yn ddigon’

Ond dywedodd Menna Machreth, llefaryd darlledu Cymdeithas yr Iaith, “nad yw annibyniaeth olygyddol yn ddigon”.

“Rhaid i S4C fod yn weithredol annibynnol. Dyw annibyniaeth olygyddol ddim yn rhoi sicrwydd ariannol i’r sianel,” meddai.

“Does dim gwarant o unrhyw arian i’r sianel ôl 2015,” meddai cyn egluro ei bod yn “siomedig iawn” gydag ymateb y BBC hyd yn hyn.

“Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n ymrwymedig i ddarpariaeth Cymraeg, ond maen nhw wedi gwneud toriadau i wefannau Cymraeg a heb fynd i Eisteddfod yr Urdd.

“Mae’r toriadau y maen nhw’n wneud am gael effaith amlwg ac andwyol ar fywyd cyhoeddus a’r cyfryngau yng Nghymru.”

Dywedodd Menna Machreth ei bod hi a’r ymgyrchwyr eraill yn bwriadu treulio noson arall ar y safle er mwyn “codi ymwybyddiaeth am yr angen am weledigaeth newydd ym myd darlledu yng Nghymru”.

Dywedodd eu bod nhw’n disgwyl am ymateb gan gyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Mark Thompson.

Y cefndir

Dechreuodd tua 12 o ymgyrchwyr wersylla ar safle Bryn Meirion ger Prifysgol Bangor am tua wyth o’r gloch y bore ddoe.

Mae’r heddlu wedi bod draw i siarad â nhw ond heb arestio unrhyw un eto.

Mae’r BBC wedi cytuno i gymryd drosodd ariannu S4C a gwasanaeth y World Service yn ogystal â rhewi’r drwydded teledu.

Yn sgil hynny mae pob adran o’r BBC yn gobeithio gwneud toriadau o tua 20% i’w gwasanaethau, gan gynnwys BBC Cymru.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon e-bost ar Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, yn galw am atal y toriadau.