Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi ymgais at ladrad mewn swyddfa bost yng Nghorwen dros nos.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd fod rhywun wedi torri i mewn i’r swyddfa bost, ar brif stryd y dre, yn ystod oriau mân y bore.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio a dyw hi ddim yn glir eto  faint o bobol oedd wedi ceisio torri i mewn.

Y gred yw bod y lladron wedi ceisio dwyn arian o ddau beiriant ATM ar y safle, ond does dim cadarnhad eto a lwyddodd y lladron i ddwyn unrhyw beth.

Mae swyddogion yr heddlu hefyd yn cynnal ymchwiliad o dŷ i dŷ yn yr ardal erbyn hyn, ac maen nhw’n annog unrhyw un oedd yng nghyffiniau’r brif stryd yn oriau mân y bore i gysylltu â’r heddlu yng Nghorwen ar unwaith ar 101.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800555111.