Rhuanedd Richards
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi heddiw pwy fydd ei Phrif Weithredwr nesa’.

Mae Rhuanedd Richards yn 37 mlwydd oed, yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Rhydfelen ac yn gyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, ac fe fu’n newyddiadurwr gwleidyddol gyda BBC Cymru am gyfnod, yn cyflwyno Dau o’r Bae ar Radio Cymru, yn ogystal â ffrwd Gymreig y Politics Show ar deledu.

Mae hefyd wedi bod yn cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Mae Rhuanedd Richards yn olynu Gwenllian Lansdown yn swydd Prif Weithredwr, Plaid Cymru.