Meic Stevens, un o artistiaid gig heddwch Eisteddfod Wrecsam
Mae mudiadau heddwch yn annog pobl i ymuno â nhw mewn gig i gofio Hiroshima yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.

Ar nos Wener 5 Awst, fe fydd munud o dawelwch am hanner nos yn yr Orsaf Ganolog yn Wrecsam i gofio’r rheiny fu farw 66 mlynedd yn ôl. Bu’r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno (1945) hefyd yn ardal Wrecsam – yn Rhosllanerchrugog – a chyhoeddwyd y Cadoediad o lwyfan y Brifwyl.

Yn perfformio yn ystod y digwyddiad fydd nifer o artistiaid yn cynnwys Meic Stevens, Tecwyn Ifan a Lleuwen Steffan. Fe fydd artist o Chile, Carlos Jesus Morales, yn canu hefyd.

Ychwanegodd Ieuan Roberts, un o drefnwyr gigs Cymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam:

“Mae Cymdeithas yr Iaith yn gosod y frwydr dros ddyfodol yr iaith a chymunedau Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol; mewn byd lle mae grymoedd mawr milwrol ac economaidd yn rheibio diwylliannau brodorol, adnoddau economaidd a’r amgylchedd ac yn y pendraw yn gorfodi eu hewyllys trwy rym,” meddai Ieuan Roberts, un o drefnwyr gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

“Dyna pam y mae’r Gymdeithas yn gyson wedi cefnogi achos Heddwch Rhyngwladol ac wedi gwrthwynebu’r defnydd o rym milwrol i orfodi atebion.

“Mae lein-yp cyffrous o artistiaid sydd wedi ymrwymo i achos heddwch. Mae Meic Stevens yn dychwelyd o gyfnod yn Canada i ganu ei gân gyntaf o 1967, ‘Yr Eryr a’r Golomen; a oedd yn gân brotest yn erbyn rhyfel Fietnam.

“Mae Tecwyn Ifan wedi bod yn amlwg yn y Mudiad Heddwch yng Nghymru ers chwarter canrif, ac mae Gwilym Morus wedi cydweithio’n gyson gyda’r Palestiniaid. Er mwyn rhoi naws cydwladol i’r noson, daw Lleuwen â band cymysg o Lydaw a Chymru a Carlos Jesus Morales o Chile.

“Bydd y bandiau ifainc Sen Segur a Tom ap Dan yn dangos fod y Mudiad Heddwch yn fyw ac yn iach yng Nghymru heddiw.”