Kiri Te Kanawa
Bydd y Fonesig Kiri Te Kanawa  yn lansio Academi Llais Ryngwladol Cymru Prifysgol Cymru y  Drindod Dewi Sant, heddiw.

Bydd yr Academi yn darparu hyfforddiant llais i gantorion opera proffesiynol ifanc o bob cwr o’r byd gyda’r criw cyntaf o fyfyrwyr yn dechrau yn yr Hydref. Y tenor Cymraeg, Dennis O’Neill, ydi sylfaenydd yr Academi.

Mae’r cwrs  MA Astudiaethau Lleisiol Pellach yn cynnwys cyfarwyddyd trwy hyfforddi unigol a dosbarthiadau meistr a bydd pob datganiad lleisiol gan fyfyrwyr yr Academi ar agor i’r cyhoedd.

“Bydd Academi Llais Ryngwladol Cymru yn darparu hyfforddiant o safon byd-eang ac yn rhoi cyfle di-hafal i fyfyrwyr i ddysgu wrth rai o ffigyrau mwyaf profiadol y byd opera, gan gynnwys cantorion cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr nodedig,” meddai Dennis O’Neill.

“Bydd cyngherddau cyhoeddus a pherfformiadau cyson yn sicrhau bod cynulleidfaoedd lleol a rhyngwladol yn cael gweld sêr opera’r dyfodol yn datblygu.

“Bydd y perfformiadau hefyd yn rhoi profiad llwyfan gwerthfawr i’r myfyrwyr ac yn cyflwyno llawer ohonynt i ofynion perfformio mewn cynyrchiadau  ar raddfa fawr.”