Emyr Jones
Ffermwr o’r Bala yw Llywydd newydd undeb yr FUW.

Mae Emyr Jones yn gyn-Ddirprwy Lywydd ar yr undeb ffermio, ac wedi ei fagu ar fferm deuluol Rhiwaedog yn Rhosygwaliau, y Bala.

Dyma fferm 356 acer sy’n cynnal 60 o wartheg ac 800 o ddefaid.

“Rydw i’n falch fy mod wedi fy ethol i arwain yr FUW, rwy’n gredwr cryf yn egwyddorion yr undeb a dyna pam fy mod yn aelod ffyddlon,” meddai yn dilyn ei ethol mewn cyfarfod yn Aberystwyth heddiw.

“Yn fy swydd newydd rwyf eisiau sicrhau bod ein mynydd-dir yn berwi o sŵn teuluoedd yn mynd o gwmpas eu busnes ar eu ffermydd.”