Mae Prif Weithredwr Cyngor Conwy wedi ymddiswyddo heddiw.

Yn ôl datganiad gan ei gyflogwr ni fydd  y cyngor sir na Byron Davies yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater, er bod nifer o wleidyddion lleol wedi mynnu bod gan y cyhoedd hawl i wybod am unrhyw ddêl ariannol.

“Mae trefniadau rheoli dros dro wedi bod mewn lle yn ystod ei absenoldeb a bydd rhain yn parhau nes bydd ei olynydd yn cael ei benodi/phenodi,” meddai llefarydd Cyngor Conwy.

 Cefndir

 Mewn cyfarfod caeedig o’r Cyngor Llawn ganol mis Mawrth eleni penderfynodd aelodau etholedig y dylid cynnal ail ymchwiliad i mewn i ymddygiad Byron Davies, er mwyn pennu os oedd wedi camarwain pwyllgor disgyblu “wrth roi tystiolaeth am faterion troseddol y gorffennol,” yn ôl cofnodion o’r cyfarfod.

Mae cylchgrawn Golwg wedi adrodd bod hyn yn cyfeirio at y ffaith nad oedd Byron Davies wedi llenwi ffurflen y Criminal Records Bureau (CRB). Mae’r CRB yn asiantaeth sy’n cynnal gwiriad o gofnodai troseddol ar ddarpar weithwyr ar ran y cyflogwyr er mwyn pennu os ydyn nhw’n addas i weithio efo plant a phobol fregus.

Pan ffoniodd Golwg eu llinell gymorth yn Lerpwl cadarnhaodd yr atebydd mai “cyfrifoldeb y cyflogwr yw gofyn (i’r CRB) os oes rhywbeth y dylen ni wybod am y person cyn inni eu cyflogi. Bob tro, lle’r sefydliad yw ffeindio hynny allan,” meddai.

 Gwahardd o’i waith

 Cafodd Byron Davies ei wahardd o’i waith yn wreiddiol pan gyhuddwyd ef gan yr heddlu o dreisio gwraig briod oedd yn gweithio i’r Cyngor. Cafodd ei ddyfarnu’n ddieuog yn Llys y Goron Y Wyddgrug fis Ionawr eleni.

Ond wrth roi tystiolaeth i’r llys fe gyfaddefodd Byron Davies ei fod wedi yfed a gyrru ar y noson allan ac roedd hynny yn ôl cofnodion y Cyngor wedi dangos “diffyg doethineb” ar ei ran.

Roedd y Prif Weithredwr hefyd wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig ar ôl ei gael yn euog o ymddwyn yn ymosodol tuag at weithwyr y Cyngor.

 Angen manylion unrhyw setliad

Dywedodd y Cynghorydd Janet Finch-Saunders wrth cylchgrawn Golwg, sydd hefyd yn Aelod Cynulliad dros Aberconwy, ei bod wedi mynnu sicrwydd y byddai Cyngor Conwy yn datgelu’r holl gostau.

“Dw i’n ffyddiog bydd y gost sy’n ynghlwm a’r mater yn dod yn gyhoeddus yn y dyfodol agos,” meddai.

Dywedodd Guto Bebb AS Aberconwy ei bod “yn allweddol bod unrhyw wariant o arian cyhoeddus yn gwbl glir i’r trethdalwyr yng Nghymru.

“Os yw popeth wedi ei wneud yn union a llythyren y ddeddf fydd gan y Cyngor ddim problem cyhoeddi’r wybodaeth,” meddai.