Mae Street Football Wales – sydd â’i wreiddiau yn ninas Abertawe, fydd yn croesawu cewri Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesa’ – wedi cael £172,520 gan y Loteri i sicrhau dyfodol y fenter dros y dair blynedd nesaf.

Daw’r prosiect dan adain Gofal a Chymorth Gwalia, sy’n cefnogi pobl heb gartrefi.

Ac mae un o sêr y Swans yn cefnogi’r fenter.

“Rwy’n frwd iawn o blaid Street Football Wales a chredaf ei fod yn bwysig rhoi gobaith ac awydd am rywbeth i bobl sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol,” meddai’r amddiffynnwr Ashley Williams.

“ Mae chwarae dros dîm pêl-droed yn cynnig cyfle i bobl wneud ffrindiau oes, i deimlo’n bwysig ac yn rhan o rywbeth

 Ehangu cynghrair y di-gartre’

 Bydd Street Football Wales yn ehangu’r gynghrair gyfredol sy’n cynnwys wyth tîm o Abertawe, dau o Gaerdydd ac un yr un o Gasnewydd a Chaerfyrddin ar hyn o bryd. Bydd yr arian yn galluogi i’r prosiect gynnwys Gorllewin Cymru a chynorthwyo wrth ddatblygu tair cynghrair newydd yn ardaloedd y De-ddwyrain, y Cymoedd, y Gogledd-ddwyrain a’r Gogledd-orllewin i redeg ochr yn ochr â’r un gyfredol.

Yr amcangyfrif y bydd 500 o bobl ychwanegol yn cael help yn ystod y tair blynedd nesaf. Yn ogystal â hyfforddiant, bydd chwaraewyr hefyd yn gallu cael mynediad at gyngor ar dai, iechyd, addysg a chyflogaeth.  

Mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi rhannu dros £4 miliwn ymysg 17 o brosiectau ledled Cymru.