Keith Davies
Does gan Lywodraeth Cymru mo’r arian i ymateb i’r galw cynyddol am addysg Gymraeg, yn ôl AC Llafur Llanelli.

Mae Llywodraeth Prydain wedi tocio 40% oddi ar gyllideb cyfalaf Cymru, sef yr arian a ddefnyddir i godi ysgolion newydd.

Tra’n cydnabod bod mwy a mwy o alw am addysg Gymraeg mewn ardaloedd fel ei etholaeth yn Llanelli, mae’r cyn-Gyfarwyddwr Addysg Keith Davies yn dweud y bydd hi’n anodd cwrdd â’r galw hwnnw.

 “Y broblem sy’ gyda ni wedyn yw cyfalaf,” meddai Keith Davies.

“Achos mae’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi torri cyfalaf Cynulliad o ddeugain y cant. Mae adeilade cyhoeddus megis ysgolion a ysbytai ac adeilade newydd yn dod i stop dw i’n credu, a wedyn ffordd ry’n ni’n mynd i ymateb i’r twf?”

Mae’r AC yn dweud bod gofod yn brin mewn ysgol cyfrwng Cymraeg yn ei etholaeth.

 “Ry’ ni nawr yn dechre dod i ystafelloedd dros dro. Ma cabane nawr yn Ysgol y Strade ond mae eisiau estyniad parhaol yna,” meddai.

‘Diffyg hyder’

Heddiw mae Bwrdd yr Iaith yn cynnal un o’i gyfarfodydd teithiol yn Llanelli.

Er bod tua 30% o bobl tre’r sosban yn medru’r Gymraeg, mae diffyg hyder yn atal llawr rhag ei siarad, yn ôl Keith Davies.

 “Diffyg hyder sydd gyda nifer fawr ohonyn nhw… ‘O. ‘dyw Nghymrag i ddim digon da’. Nawr rwy’n son fana am oedolion sydd wedi cael eu codi yn yr ardal,” meddai.

 “Mae tueddiad gyda nifer o bobl i beidio siarad gyda nhw yn Gymraeg, a siarad yn Saesneg, am bod nhw yn teimlo bod nhw yn anghyfforddus yn siarad Cymraeg. Nid dyna’r pwynt mewn ffordd. Y ffordd mae nhw yn mynd i gryfhau’r iaith yw trwy siarad yr iaith.”

Y Gymraeg ar y We – angen mwy

             Mae Keith Davies yn dweud bod diffyg adnoddau ar gael i bobl fedru defnyddio’r Gymraeg ac yn rhoi enghraifft o hynny yn y byd addysg.

“Tueddiad nawr yw i fynd ar y rhyngrwyd. Ac wrth gwrs faint o ddeunydd sydd gyda ni trwy gyfrwng y Gymraeg ar y rhyngrwyd? Dim bron. Ac wedyn mae’r plant yn tueddu i adolygu neu baratoi traethode a defnyddio’r holl wybodaeth mae nhw wedi cael trwy gyfrwng y Saesneg a wedyn trosio fe i’r Gymraeg. Fydde fe lawer yn haws iddyn nhw os fydde’r adnodde ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.”