Wedi iddyn nhw anwybyddu gwaharddiad am oes rhag cadw anifeiliaid, mae gŵr a gwraig yn wynebu carchar ar ôl cyfadde’ cam-drin anifeiliaid.

Roedd Eric a Doreen Buckley o Bontypridd wedi troi eu cartref mewn hen dafarn yn gartre’ i lu o anifeiliaid.

Fe gafodd y pâr eu dal yn cadw cath, 11 ci, naw gŵydd, merlen a dwy afr dan amodau dychrynllyd.

Yn 1993 roedd Eric Buckley, 56, a’r wraig, 46, wedi eu gwahardd rhag cadw cŵn am ddeng mlynedd yn 1993.

Ddwy flynedd wedyn, ar ôl anwybyddu’r gorchymyn hwnnw, fe gawson nhw eu gwahardd rhag cadw unrhyw fath o anifail, a hynny am weddill eu bywydau.

Fis diwetha’ roedd y Barnwr Rhanbarthol Jill Watkins, yn Llys Ynadon Pontypridd, wedi rhydubbio bod yr achos mor ddifrifol roedd yn “haeddu” cyfnod dan glo.

Flwyddyn yn ôl aeth yr heddlu a’r RSPCA ar gyrch i gartre’r cwpwl yng Nghwm Rhondda, oherwydd pryderon am les anifeiliaid.

Roedd swyddogion yr RSPCA wedi dychryn bod y cartre’n drewi a llawn carthion anifeiliaid.

Ar un adeg roedd hyd at 13 o gŵn yn rhedeg o gwmpas y tŷ ac yn ei ddefnyddio fel toilet.

Ond roedd y rhan fwyaf o’r anifeiliaid yn cael eu cadw mewn seler dywyll gyda bron i fodfedd o garthion anifeiliaid ar y llawr.

Roedd nifer o’r cŵn wedi diodde’ cymaint nes y bu’n rhaid i’r milfeddyg dynnu’r rhan fwyaf o’u dannedd.

Mae disgwyl i’r pâr priod gael ei dedfrydu ger bron Llys Ynadon Pontypridd.