Hywel Williams
 Mae Aelod Seneddol o’r gogledd wedi cefnogi hawl papur newydd o’r gogledd i gyhoeddi stori dudalen flaen am gwynion gan staff ifanc siop Tesco, bod dynes ganol oed wedi bod yn ‘fflashio’ ei bronnau noeth o’u blaen nhw.

Yn dilyn cyhoeddi’r stori yn y Bangor and Anglesey Mail mi’r oedd y siop Tesco Extra ar gyrion dinas Bangor wedi tynnu’r papur wythnosol oddi ar y silffoedd, ac yn gwrthod ei werthu.

Mae’r AS lleol Hywel Williams wedi cwyno fod penderfyniad Tesco yn “ymgais i sensor rhyddid y wasg”.

“Rwy’n rhyfeddu at beth ddigwyddodd,“ meddai Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Arfon.

“Mae gan y Bangor Mail bob hawl i wneud adroddiad am y stori hon – un sydd, yn ôl pob sôn, wedi tarfu ar lawer o bobl.

“Dylai rhyddid y wasg i adrodd am faterion o ddiddordeb i’r cyhoedd fod flaenaf.”

Yn ôl y Bangor and Anglesey Mail roedd penaethiaid y siop Tesco wedi gofyn i staff beidio trafod ymddygiad y ddynes ganol oed.

“Rwy’n credu y dylai ymdrechion gan gyflogwyr neu gorfforaethau mawr i fygu barn gael eu dwyn i olau dydd,” meddai Hywel Williams. 

Yn dilyn cwynion ar wefannau cymdeithasol, mi benderfynodd Tesco ddechrau gwerthu’r papur newydd eto.

“Rwy’n falch fod Tesco wedi dod at eu coed o’r diwedd ac wedi rhoi’r papur newydd yn ôl ar y silffoedd yn dilyn y trychineb hwn mewn cysylltiadau cyhoeddus – ond rwy’n dal yn bryderus am eu blaenoriaethau,” meddai Hywel Williams.

“Mae lles y staff a gofalu bod eu gweithwyr yn teimlo’n ddiogel yn y man gwaith yn hanfodol. Gobeithio’n wir y bydd y sefyllfa hon yn cael ei datrys cyn gynted ag y bo modd.”

Cefndir

Ddydd Mercher roedd Tesco yn cadarnhau wrth golwg360 eu bod wedi rhoi’r gorau i werthu’r Bangor and Anglesey Mail yn eu siop ym Mangor.

Ar dudalen flaen y papur roedd stori yn honni bod un o oruchwylwyr y cwmni wedi bod yn ‘fflashio’ drwy ddangos ei bronnau i weithwyr ifanc yn ystod shifft nos.

Yn ôl y stori yn y Bangor And Anglesey Mail, roedd y gweithwyr yn anhapus am fod cwmni Tesco wedi methu â disgyblu’r wraig ganol oed, oedd yn swyddog undeb.

Roedden nhw hefyd yn honni bod ei hundeb, USDAW, yn ei gwarchod ac, yn ôl y stori yn y papur, roedden nhw’n ystyried streic answyddogol.