Rhodri Glyn Thomas
Y cyn-Weinidog Diwylliant Rhodri Glyn Thomas sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg ar Gomisiwn y Cynulliad – y corff sy’ wedi’i gyhuddo o dorri ei gynllun iaith ei hun ar fater cyhoeddi Cofnod dwyieithog o drafodaethau ar lawr Siambr y Senedd.
Mae’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi pwyso’n gyson am adfer Cofnod dwyieithog llawn ers i’r Comisiwn, dan Gadeiryddiaeth ei gyd-aelod Plaid Cymru Dafydd Elis-Thomas, benderfynu peidio â chyfieithu areithiau gwleidyddol Saesneg i’r Gymraeg – er mwyn arbed £250,000.
Ddydd Mercher roedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod Llywydd newydd y Cynulliad, sydd hefyd yn Gadeirydd newydd y Comisiwn, i ddweud wrthi bod y drefn o beidio cyflwyno Cofnod cwbl ddwyieithog yn groes i gynllun iaith y Cynulliad ei hun.
Yn ei gynllun iaith mae’r Cynulliad yn addo: ‘Cyn gynted ag y bo modd ar ôl y cyfarfod, cyhoeddir cofnod gair-am-air dwyieithog a bob Cyfarfod Llawn’.
Mis i wneud tro pedol
Mae Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, wedi addo ymateb i argymhellion Bwrdd yr Iaith cyn i’r Aelodau Cynulliad fynd ar eu gwyliau haf.
Golyga hyn fod gan Rhodri Glyn Thomas lai na mis i berswadio ei gyd-aelodau ar y Comisiwn i dderbyn bod angen adfer Cofnod dwyieithog.
Ddechrau’r wythnos roedd Arweinydd Dros Dro’r Ceidwadwyr, Paul Davies, yn ailddatgan barn ei blaid bod angen Cofnod dwyieithog – felly mae’n rhesymol i gredu y bydd aelod y Torïaid ar y Comisiwn, Angela Burns, o blaid newid y drefn.
Yr aelod Llafur ar y Comisiwn yw Sandy Mewies, ac mae Cadeirydd y Comisiwn, Rosemary Butler, hefyd o’r blaid honno.
Mae cynrychiolydd y Lib Dems yn aelod o’r hen Gomisiwn wnaeth bleidleisio o blaid dileu’r Cofnod dwyieithog, a bydd angen dwyn perswâd ar Peter Black ei bod yn werth gwario tua £300,000 i adfer Cofnod dwyieithog llawn.
Cynulliad yn blismon iaith arno’i hun
Oherwydd bod Comisiwn y Cynulliad yn cael ei gyfrif yn un o gyrff y goron, nid oes gan Fwrdd yr Iaith unrhyw rym cyfreithiol i’w orfodi i weithredu ar unrhyw argymhellion.
Mi allai’r Comisiwn anwybyddu’r Bwrdd, ac ni fyddai modd i’r Bwrdd wneud dim wedyn.
Pan ddaw’r Comisiynydd Iaith i fodolaeth, fe fydd Aelodau’r Cynulliad yn cael parhau i fonitro a phenderfynu ar eu cynllun Iaith eu hunan.
‘Brawychus’
Mae Rhodri Glyn Thomas eisoes wedi mynegi pryedron am faint o Gymraeg sy’n cael ei ddefnyddio yn y Cynulliad.
Ac mae ffigyrau’r sefydliad ei hun yn cadarnhau bod cwymp syfrdanol wedi bod dros y blynyddoedd:
Cwestiynau a ofynnwyd
|
Blwyddyn ariannol | |||||||||||
03/04 | 04/05 | 05/06 | 06/07 | 08/09 | 09/10 | |||||||
% cwestiynau llafar a ofynnwyd yn Gymraeg | 3.7 | 2.3 | 4.3 | 6.7 | 1.6 | 0.5 | ||||||
% cwestiynau ysgrifenedig a ofynnwyd yn Gymraeg | 2.2 | 2.4 | 0.4 | 1.7 | 0.1 | 0.1 | ||||||
% o aelodau cymwys i ofyn cwestiwn a ofynnodd o leiaf un cwestiwn llafar yn Gymraeg | 22 | 24 | 20 | 20 | 16 | 9.1 | ||||||
%o aelodau cymwys i ofyn cwestiwn a ofynnodd o leiaf un cwestiwn ysgrifenedig yn Gymraeg | 20 | 8 | 8 | 8 | 6 | 2.3 |