Ffion Wyn Roberts (Llun trwy law'r heddlu)
Mae’r BBC yn dweud bod teulu merch a gafodd ei llofruddio ym Mhorthmadog yn ystyried gadael yr ardal.

Mae Idris a Bethan Roberts wedi dweud wrth ohebwyr eu bod yn cael eu trin yn wael gan bobol leol ers llofruddiaeth eu merch, Ffion.

Ar Radio Wales, fe ddywedodd Bethan Roberts ei bod yn byw mewn ofn a bod y profiad yn “ofnadwy” wrth i bobol droi cefn arnyn nhw.

Yn ôl y teulu, mae rhai pobol yn meddwl bod y dyn anghywir yn y carchar a rhai, yn hollol ar gam, yn amau eu mab.

Fe gafodd dyn lleol, Iestyn Davies, ei garcharu am oes am lofruddio Ffion Wyn Roberts ac, yn ôl y barnwr yn y llys, roedd y dystiolaeth yn ei erbyn yn gwbl glir.

Ar un adeg, roedd tad a brawd Ffion Wyn Roberts wedi eu harestio, ond fe gawson nhw eu rhyddhau wedyn  ar ôl i dystiolaeth DNA ddangos nad nhw oedd yn gyfrifol.