Fe gafodd dyn ei ladd ar y ffordd yn Abertawe yn hwyr neithiwr.

Mae Heddlu De Cymru’n gofyn am wybodaeth gan dystion neu gan bobol a aeth i helpu ar ôl y digwyddiad ychydig cyn deg y nos yn ardal Townhill.

Fe gafodd cerddwr 36 oed ei ladd yn y gwrthdrawiad gyda car Mazda 626 arian – er i staff ambiwlans geisio’i achub, fe fu farw yn y fan a’r lle. Fe gafodd y gyrrwr 48 oed fân anafiadau.

Roedd y car yn gyrru hyd Heol Gwent i gyfeiriad Rhodfa Gors ac fe fu’r ffordd ynghau am chwech awr.

Fe ddylai tystion gysylltu â’r heddlu ar 02920 633438 neu trwy Taclo’r Tacle ar 0800 555111.