Map o Wybodaeth Agored yr OS (CCA 3.))
Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio i gadw’n glir o ardal Fforestfach yn Abertawe oherwydd tân mewn stad ddiwydiannol yno.

Fe ddaeth yn glir bod y fflamau wedi cydio yn hen ffatri Mettoy ac mae pobol wedi gorfod symud o fusnesau cyfagos.

Mae’r tân hefyd wedi atal nifer o fysys sy’n cael eu cadw yn y cyffiniau rhag symud.

Mae trigolion lleol hefyd wedi cael cyngor i gadw eu drysau a’u ffenestri ynghau wrth i fwg ledu tros yr ardal.

Yn ôl Heddlu De Cymru, does dim adroddiadau eto fod neb wedi eu hanafu ond mae’r tân yn cael effaith ar nifer o ffyrdd o amgylch Ffordd Caerfyrddin.

Mae’r heddlu a’r gwasanaethau achub hefyd yn gofyn i yrwyr beidio ag aros ac achosi rhwystrau a allai rwystro’r gwasanaethau brys rhag cyrraedd.

Mae’r stad ddiwydiannol y drws nesa’ i un o’r canolfannau siopa mwya’ yn Abertawe hefyd.