Ar brydiau mae’r Cymry yn gallu bod yn fwy parod i groesawu pobol o Loegr nag o ben arall eu gwlad eu hunain, yn ôl awdures sydd wedi cipio gwobr Tir na nOg eleni.

Mae Lleucu Roberts wedi selio’i nofel newydd i blant a phobl ifanc ar broblem sydd, yn ei barn hi, yn “adlewyrchu sefyllfa sydd yn digwydd yng Nghymru.

 “Mae yna deimlad weithie o ddieithrwch rhwng gogledd a de, mwy na rhwng Saeson a Chymry,” meddai’r awdures sy’n hanu o ardal Aberystwyth, ond sydd bellach yn byw yn Rhostryfan ger Caernarfon.

 “Mae’n rhywbeth sydd wedi bod ar fy meddwl i ers tro,” meddai Lleucu Roberts, a benderfynodd roi ei hargraffiadau ar bapur wrth fynd ati i ysgrifennu ei nofel ddiweddaraf i blant blwyddyn 5 i 8, Wel, Gymru Fach!

 Ond mae yn credu bod y dieithrwch a’r gwrthdaro rhnwg Gogs a Hwntws yn fwy amlwg ymhlith oedolion na phlant.

 “Mae plant yn dueddol o dderbyn y gwahanol yn well,” meddai.

 Creu pentref ar y tir canol…

 Er mwyn rhoi’r stori ar bapur, creodd yr awdures bentref dychmygol yng nghanolbarth Cymru o’r enw Llan-hir, lle mae dau deulu Cymraeg wedi symud yno’n ddiweddar, un o’r Tymbl, a’r llall o Gaernarfon. Ond mae meibion y ddau deulu yn methu’n glir â chyd-dynnu.

 “Mae prinder bechgyn mawr eu hoed nhw yn y pentref, ond mae’r ddau yn mynnu tynnu’n groes i’w gilydd,” meddai Lleucu Roberts, sy’n dweud bod dyfodiad bachgen o Loegr i’r pentref yn rhoi’r ddamcaniaeth sydd ganddi ar waith – fod Cymry yn fwy parod “i groesawu pobol o ar draws y ffin yn haws na phobol o ben arall y wlad.

 “Mae’n rhywbeth sy’n dueddol o’n gwahanu ni yn hytrach na dod â ni at ein gilydd am ryw reswm,” meddai’r awdures, sy’n ystyried ei hun yn “Gymraes”, yn hytrach nag yn ‘hwntw’ neu’n ‘gog’.

 Ysgrifennu wedi’r wobr

 Lawnsiwyd Wel, Gymru Fach! yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni – wythnos a welodd yr awdures yn cipio gwobr Tir na nOg am nofel arall a ysgrifennodd i blant ysgol uwchradd, Stwff.

 Mae’r wobr “yn sicr yn hwb i ysgrifennu mwy i blant” meddai Lleucu Roberts, sy’n sgriptwraig, yn ogystal ag awdur nofelau i oedolion a phlant.

 “Dw i’n sicr yn meddwl mwy am beth all apelio at blant nawr. Ond cael y syniad yw’r peth anodda o hyd, cael rhywbeth sydd yn bachu sylw.”

 Mae nofel arall i blant hŷn ganddi yn disgwyl dod o’r wasg ar hyn o bryd, ac mae ar ganol ysgrifennu nofel arall i oedolion erbyn hyn.

 Mae Wel, Gymru Fach nawr ar werth am £3.95, wedi ei chyhoeddi gan Y Lolfa.