Y Pafiliwn
Mae ymgyrchwyr wedi llwyddo i atal cynlluniau Cyngor Sir Ddinych i ddymchwel Pafiliwn Corwen unwaith yn rhagor.

Roedd cefnogwyr y pafiliwn eisoes wedi llwyddo i atal cynlluniau’r cyngor i ddymchwel y pafiliwn, sydd wedi cau, ym mis Ebrill.

Mae trigolion bellach wedi ennill yr hawl i gyflwyno adroddiad i’r cyngor, gan gynnwys eu hamcangyfrif am faint y bydd yn ei gostio i achub y pafiliwn.

Fe fydd ganddyn nhw nes 1 Gorffennaf i gyflwyno cynllun ariannol i achub y safle.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud y byddai’r adeilad 99 oed yn costio rhwng £2m i £3m i’w hadfer – ffigwr y mae trigolion sydd am ei achub yn ei amau.

Cafodd y pafiliwn ei gau am gyfnod ym mis Mawr 2009, ar ôl darganfod asbestos, ac fe’i gaewyd yn barhaol mis yn ddiweddarach.

Dadl dros arian…

Mewn datganiad, cadarnhaodd y Cyngor “na fyddai dymchwel yn digwydd nes bod grŵp gweithredu sydd wedi ei sefydlu i ymgyrchu yn erbyn y cynnig, ac wedi cael cyfle i gyflwyno gwybodaeth ariannol i Gyngor Sir Ddinbych.”

Bydd yn rhaid i’r grŵp gyflwyno’r wybodaeth ariannol hyn i’r Cyngor erbyn Gorffennaf 1af, ond mae’r Cyngor wedi “addo peidio â dymchwel yr adeilad nes hynny”.

Yn ôl Jamie Groves, Pennaeth Hamdden, Llyfrgelloedd a Datblygu Cymunedol Sir Ddinbych, “rydyn ni wedi egluro nad oes gan y Cyngor y cyllid i adeiladu Pafiliwn newydd.”

Ond mae ymgyrchwyr yn dadlau fod y ffigwr sy’n cael ei drafod gan y Cyngor – rhwng £2 a £3 miliwn – yn llawer uwch na’r cyfanswm y maen nhw wedi ei gyrraedd, fyddai’n golygu rhyw £50,000 er mwyn adnewyddu a diogeli’r adeilad, neu £500,000 I’w ail adeiladu.

Mae Jamie Groves wedi dweud fod y Cyngor yn barod i ystyried trosglwyddo yr hawl dros y tir I ddwylo’r gymuned leol.

“Ond byddai’n ofynnol wedyn i’r gymuned sefydlu ymddiriedolaeth elusennol,” meddai.

Dywedodd, fodd bynnag, nad oedd cadw’r pafiliwn fel ag y mae yn opsiwn.

“Tra bod yr adeilad yn sefyll yn wag, mae yna berygl sylweddol i’r cyngor ac i’r gymuned leol,” meddai.