Ed Miliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband wedi dweud ei fod yn hapus i weld Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn clymbleidio.

Mae gan y Blaid Lafur union hanner y seddi yn y Senedd yn dilyn Etholiadau’r Cynulliad ddechrau’r mis diwethaf.

Penderfynodd Carwyn Jones y byddai’r Blaid Lafur yn llywodraethu ar ei ben ei hun am y tro ond fe allaiddod i gytundeb â Phlaid Cymru neu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn hwyrach ymlaen.

Dywedodd Ed Miliband mai penderfyniad Carwyn Jones fyddai unrhyw glymblaid ac na fyddai yn gwrthwynebu.

“Mae’n benderfyniad iddo ef. Mae yn Brif Weinidog gwych,” meddai Ed Miliband.

“Mae o wedi gwneud gwaith gwych ers cymryd yr awenau gan Rhodri Morgan. Mae’r penderfyniad yn un iddo ef.

“Rhan o gryfder datganoli yw bod gwledydd gwahanol yn mynd i gyfeiriad gwahanol. Ac mae Cymru wedi arwain y ffordd mewn sawl maes, gan gynnwys y gwaharddiad ysmygu.”