Mae’r Frenhines wedi agor pedwerydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn swyddogol heddiw – ond doedd dim son am arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn y seremoni.
Roedd pedwar o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, sef Bethan Jenkins, Leanne Wood, Llyr Huws Gruffydd a Lindsay Whittle eisoes wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu osgoi’r seremoni.
Pan gysylltodd Golwg 360 â swyddfa arweinydd Plaid Cymru, fe gadarnhaodd llefarydd nad oedd Ieuan Wyn Jones yn y senedd heddiw, ond nad oedd yn ymwybodol beth oedd y rheswm am ei absenoldeb.
Roedd adroddiadau ei fod ar ei wyliau.
Croesawyd y Frenhines gan Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones wrth iddi agor yn swyddogol y Pedwerydd Cynulliad.
Mae’r seremoni’n nodi dechrau busnes y Cynulliad ar gyfer aelodau newydd o’r Cynulliad a’r rhai sy’n dychwelyd ar ôl yr etholiad ar 5 Fai.
“Mae heddiw’n nodi pennod newydd yn hanes Cymru,” meddai Carwyn Jones. “Oherwydd y bleidlais hanesyddol ar bwerau deddfu bydd y sefydliad hwn am y tro cyntaf yn gallu cyflwyno deddfau newydd ar faterion datganoledig heb orfod wneud cais am y pwerau i Senedd y Deyrnas Unedig.
“Fodd bynnag, ni fydd Llywodraeth Cymru newydd yn creu deddfwriaeth newydd heb fod rheswm da dros wneud hynny. Mae’n adeg heriol, a’n ffocws ni fydd gweithio’n ddiflino i wella’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a chreu cyfleoedd i bawb. Ein priod waith ni yw diogelu buddiannau’n pobl a sefyll cornel Cymru.”