Llŷr Titus o Aelwyd Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli sydd wedi ennill coron Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe.

Mae Llŷr yn 18 oed, ac wedi bod yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Edern, Ysgol Uwchradd Botwnnog a bellach yn fyfyriwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli.  

Bydd yn sefyll arholiadau Lefel ‘A’ mewn Cymraeg, Drama, Ffrangeg a Saesneg yr wythnos nesaf.

 Ei obaith yw mynd i Brifysgol Bangor i astudio’r Gymraeg. Ei ddiddordebau yw darllen, ysgrifennu, actio a chymdeithasu gyda’i ffrindiau.

  “Yr wyf wedi bod yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol ac adran lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd ac wedi cael peth llwyddiant,” meddai.

“Fy uchelgais yw cael bywoliaeth drwy ysgrifennu.

“Hoffwn ddiolch i Gwenan Elis Jones cyn-brifathrawes Ysgol Edern, Esyllt Maelor Ysgol Botwnnog, Delyth Roberts Coleg Meirion Dwyfor ac Alun Jones Llên Llŷn gynt am eu hanogaeth a’u hamynedd.”