Eurig Salisbury
Mae Bardd Plant Cymru eleni am gymell plant i farddoni trwy gyfrwng gwefannau fel Twitter.

Dyna obaith Eurig Salisbury, sy’n olynu’r diddanwr Dewi Pws yn y swydd am gyfnod o ddwy flynedd.

Bydd y bardd yn parhau i gynnal gweithdai ar e-bost fel Dewi Pws, ond mae’n gobeithio datblygu’r cynllun trwy gynnal gweithdai ar Twitter ac y caiff ‘app’ barddol ei greu ar gyfer yr iPhone.

“Trio cael syniadau newydd yn ymwneud â thechnoleg – dyna’r nod,” meddai Eurig Salisbury. “Mae hi’n broses barhaol o gael plant gyda diddordeb mewn barddoniaeth.”

“Ar lawr gwlad, wrth fynd i dalyrnau, mae barddoniaeth yr un mor boblogaidd ag erioed. Yr hyn rydw i’n fwynhau ei wneud fwyaf yw perfformio cerddi ar lafar mewn talyrnau, ymrysonau, stomps a nosweithiau yn gyffredinol.

“Efallai bod lle i feirdd wneud mwy gyda thechnoleg fodern sy’n gallu rhoi llwyfan i’r math yna o berfformiad yn haws, gyda Twitter a YouTube yn hytrach na chyhoeddi yn unig.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 2 Mehefin