Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Fe fydd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn cwrdd ag arweinwyr llywodraethau Cymru a Gogledd Iwerddon heddiw.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng nghartref swyddogol Alex Salmond yng Nghaeredin. Dyma’r tro cyntaf i arweinwyr llywodraethau datganoledig y tair gwlad gyfarfod ers derbyn mandad newydd gan yr etholwyr yn ystod yr etholiadau ddechrau’r mis.

Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Peter Robinson, a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness a Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn cwrdd ag Alex Salmond.

Enillodd plaid SNP Alex Salmond fwyafrif yn yr etholiadau ar 5 Mai, tra bod Plaid Lafur Carwyn Jones wedi cipio union hanner y seddi, oedd yn ddigon i lywodraethu ar ei phen ei hun.

Enillodd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd Peter Robinson 38 o’r 108 o seddi yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon, tra bod Plaid Sinn Féin Martin McGuinness wedi cipio 29.

Mae’n debygol y bydd y tair llywodraeth ddatganoledig yn trafod treth ar fusnesau. Mae Alex Salmond wedi awgrymu y dylid cynnwys y grym i godi a gostwng y dreth ym Mesur yr Alban.

Mae adroddiad gan Dy’r Cyffredin eisoes wedi awgrymu fod cefnogaeth tuag at ddatganoli’r dreth i Ogledd Iwerddon.

Dywedodd Carwyn Jones yr wythnos diwethaf mai ei flaenoriaeth oedd mynd i’r afael â’r modd y mae Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth San Steffan.

Dywedodd y byddai yn edrych ar bwerau benthyca arian a’r hawl i godi trethi ymhellach ymlaen.